2014 Rhif 2693 (Cy. 268)

Cynllunio gwlad a thref, cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi amryw faterion at ddibenion adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. 

Mae adran 108 yn darparu ar gyfer digolledu drwy daliad mewn achosion penodol pan fo caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a roddwyd gan orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu’n ôl, a phan fo cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwnnw yn cael ei wrthod neu fod y caniatâd yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau. 

Mae adran 108(2A) a (3B) i (3D) (fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu’n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012) (O.S. 2012/210 (Cy. 36)) yn galluogi cyfyngu ar yr amgylchiadau pan fo tâl digolledu yn daladwy. 

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r mathau o ddatblygiad at ddibenion adran 108(2A) a (3C) (rheoliad 2), y dull ar gyfer tynnu’n ôl ganiatâd cynllunio (rheoliad 3) a’r dull, a’r cyfnod hiraf, ar gyfer rhoi hysbysiad o dynnu’n ôl, dirymu, diwygio neu gyfarwyddydau (rheoliadau  4 a 5).

Mae’r mathau rhagnodedig o ddatblygiad eisoes yn cynnwys datblygiad a ganiateir gan y rhannau canlynol o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418) (“Gorchymyn 1995”): Rhan 1 (datblygu o fewn cwrtil tŷ annedd); Dosbarth A o Ran 8 (estyn neu addasu adeilad diwydiannol neu warws) a Dosbarth E (storfeydd sbwriel a beiciau o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws); Rhan 32 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai); Rhan 40 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig); Rhan 41 (swyddfeydd); Rhan 42 (siopau a sefydliadau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol) a Rhan 43 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).

Bellach mae’r mathau rhagnodedig o ddatblygiad hefyd yn cynnwys Rhan 24 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru)) i’r graddau y mae paragraff A.2(4A) yn datgymhwyso’r amodau ym mharagraff A.3 o Ddosbarth A ac yn cymhwyso’r amodau ym mharagraff A.2(4B) o Ddosbarth A.

Effaith y Rheoliadau hyn yw, pan gaiff yr hawliau datblygu a ganiateir a nodir yn rheoliad 2 eu tynnu’n ôl gan gyfarwyddydau o dan adran 108(2A), nad yw tâl digolledu yn daladwy ond mewn perthynas â cheisiadau cynllunio a wnaed o fewn 12 mis yn dechrau ar y dyddiad y daeth y cyfarwyddydau yn effeithiol. 

Mae’r materion a ragnodir yn rheoliadau 3 a 4 yn ymwneud â chaniatâd cynllunio a roddir gan orchymyn datblygu ac yn darparu mecanwaith i’r hawliau datblygu a ganiateir a nodir yn rheoliad 2 gael eu tynnu’n ôl heb fod tâl digolledu yn daladwy, cyhyd â bod y gweithdrefnau rhagnodedig yn cael eu dilyn o ran y dull tynnu’n ôl, y dull o gyhoeddi’r tynnu’n ôl a’r cyfnod hiraf o hysbysiad y caniateir ei roi mewn perthynas â’r tynnu’n ôl. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth debyg o ran tynnu’n ôl hawliau datblygu a ganiateir a roddir gan orchymyn datblygu lleol.

Mae rheoliadau 3, 4 a 5 yn gwneud darpariaeth o ganlyniad i greu hawl datblygu a ganiateir ag iddi derfyn amser yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2014, sy’n diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995.

Mae rheoliad 6 yn ddarpariaeth drosiannol.

Mae rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/593 (Cy. 70)) sy’n cael eu hail-wneud yn sylweddol gyda diwygiadau.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael gan Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.


2014 Rhif 2693 (Cy. 268)

Cynllunio gwlad a thref, cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2014

Gwnaed                                   29 Medi 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Hydref 2014

Yn dod i rym                      7 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([1]) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([2]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2014 a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2014.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Atodlen 2” (“Schedule 2”) yw Atodlen 2 i Orchymyn 1995;

 

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995([3]); ac

ystyr “Gorchymyn y Weithdrefn Rheoli Datblygu” (“the DMPO”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012([4]).

Datblygiad rhagnodedig – caniatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu

2. At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o’r Ddeddf (digolledu pan gaiff gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol ei dynnu’n ôl), mae datblygiad o’r disgrifiad canlynol yn rhagnodedig—

(a)     datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd)([5]);

(b)     datblygiad a ganiateir gan Ddosbarthiadau A ac E o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu addasu adeilad diwydiannol neu warws a chodi neu adeiladu storfa sbwriel neu feiciau o fewn cwrtil adeilad diwydiannol neu warws)([6]);

(c)     Dosbarth A o Ran 24 (datblygu gan weithredwyr cod cyfathrebu electronig (Cymru))([7]) i’r graddau y mae paragraff A.2(4A) yn datgymhwyso’r amodau ym mharagraff A.3 o Ddosbarth A ac yn cymhwyso’r amodau ym mharagraff A.2(4B) o Ddosbarth A;

(d)     datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai)([8]);

(e)     datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig)([9]);


 

(f)      datblygiad a ganiateir gan Ran 41 o Atodlen 2 (swyddfeydd)([10]);

(g)     datblygiad a ganiateir gan Ran 42 o Atodlen 2 (siopau, sefydliadau gwasanaethau ariannol neu broffesiynol)([11]); a

(h)     datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig)([12]).

Dull rhagnodedig o dynnu’n ôl ganiatâd cynllunio a roddwyd drwy orchymyn datblygu

3. At ddibenion adran 108(3C)(b) o’r Ddeddf, y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu’n ôl ganiatâd cynllunio yw—

(a)     drwy gyfarwyddyd yn unol ag erthyglau 4([13]), 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Orchymyn 1995; neu

(b)     drwy ddarparu mewn gorchymyn datblygu fod caniatâd cynllunio—

                           (i)    am gyfnod cyfyngedig; neu

                         (ii)    yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

Hysbysiad o’r tynnu’n ôl - y dull cyhoeddi a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer gorchmynion datblygu

4.(1)(1) At ddibenion adran 108(3C)(c) o’r Ddeddf, mae’r materion canlynol yn rhagnodedig.

(2) Y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r tynnu’n ôl yw—

(a)     y dull a ddisgrifir yn erthyglau 5 a (fel y bo’n briodol) 6 o Orchymyn 1995; neu

(b)     drwy ddarparu mewn gorchymyn datblygu fod caniatâd cynllunio—

                           (i)    am gyfnod cyfyngedig; neu

                         (ii)    yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn datblygu.

(3) Y cyfnod rhagnodedig yw—

(a)     24 mis; neu

(b)     pan fo hysbysiad o’r tynnu’n ôl yn cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2)(b), 5 mlynedd.

Hysbysiad o’r tynnu’n ôl – y dull a’r cyfnod rhagnodedig ar gyfer gorchmynion datblygu lleol

5.(1)(1) At ddibenion adran 108(3D)(c) o’r Ddeddf, mae’r materion canlynol yn rhagnodedig.

(2) Y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o ddirymu, diwygio neu gyfarwyddydau yw—

(a)     y dull a ddisgrifir ym mharagraffau (7) ac (8) o erthygl 27 o Orchymyn y Weithdrefn Rheoli Datblygu; neu

(b)     pan fo gorchymyn datblygu lleol yn rhoi caniatâd cynllunio am gyfnod cyfyngedig, neu’n darparu bod caniatâd cynllunio yn cael ei dynnu’n ôl ar ôl dyddiad a bennir yn y gorchymyn datblygu lleol, drwy roi copi o’r gorchymyn datblygu lleol hwnnw yn yr adran briodol o’r gofrestr a gedwir gan yr awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthygl 29 o Orchymyn y Weithdrefn Rheoli Datblygu.

(3) Y cyfnod rhagnodedig yw—

(a)     24 mis; neu

(b)     pan fo hysbysiad o’r tynnu’n ôl yn cael ei gyhoeddi’n unol â pharagraff (2)(b), 5 mlynedd.

Darpariaeth drosiannol

6. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dynnu’n ôl o ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 2(d) pan fo, cyn 18 Mehefin 2012, naill ai—

(a)     hysbysiad o’r cyfarwyddyd yn tynnu’n ôl y caniatâd hwnnw wedi cael ei roi yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 1995; neu

(b)     y cyfarwyddyd yn un y mae erthygl 6 o Orchymyn 1995 (hysbysiad a chadarnhad o gyfarwyddydau erthygl 4(2)) yn gymwys iddo a bod y cyfarwyddyd wedi dod i rym.

Dirymu

7. Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2014([14]) wedi eu dirymu.

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

 

29 Medi 2014



([1])           1990 p. 8. Diwygiwyd adran 108 gan adran 13(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34), adran 40(2) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 6 iddi, adran 189 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 2 a 3 o Atodlen 17 iddi a Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (O.S. 2006/1281). Diwygiwyd is-adrannau 108(2A), (3C), (3D) a (6) gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu’n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/210) (Cy. 36)). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([2])           Diwygiwyd adran 108(6) er mwyn rhoi swyddogaethau mewn perthynas â Chymru sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru, gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu’n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012.

([3])           O.S. 1995/418.

([4])           O.S. 2012/801 (Cy. 110) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/755  (Cy. 90). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([5])           Amnewidiwyd Rhan 1 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2013/1776 (Cy. 177).

([6])           Amnewidiwyd Rhan 8 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

([7])           Amnewidiwyd Rhan 24 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2002/1878 (Cy. 187) a’i diwygio gan O.S. 2003/2155 ac O.S. 2014/2692 (W.267).

([8])           Amnewidiwyd Rhan 32 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

([9])           Amnewidiwyd Rhan 40 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2012/1346 (Cy.167).

([10])         Mewnosodwyd Rhan 41 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

([11])         Mewnosodwyd Rhan 42 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2014/592 (Cy. 69).

([12])         Mewnosodwyd Rhan 43 mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2012/2318 (Cy. 252).

([13])         Diwygiwyd erthygl 4 gan O.S. 1996/528, O.S. 2006/124 (Cy. 17), O.S. 2006/1386 (Cy. 136) ac O.S. 2013/1776 (Cy. 177).

([14])         O.S. 2014/593 (Cy. 70).